top of page

Reid hamddenol a reid cyflym efo cacen yn y canol....'da ni'n wahanol!

Wel am reid dda heddiw bois bach. Cychwyn o Benygroes i ni (gweddill y criw o Drefor ac un o Gaeathro) ar ôl cyfarfod Iolo i ymuno efo ni am y tro cyntaf heddiw. Dw i 'rioed wedi cychwyn allan mor gynnar ar y beic (8.20), ond sylweddolais ddigon sydyn pam fod y dynion yn hoff o fynd adeg yno'r bore. Lonydd distaw, digon o glybiau a beicwyr eraill ar y lôn a'r rhyddid i fwynhau sgwrsio a chymdeithasu efo'r criw. Aethon ni (y criw hamddenol) yn ein blaenau o Gaeathro i gyfeiriad Weun, Rhyd Ddu, Beddgelert, Tremadog a Phorthmadog cyn cael hoi fach mewn caffi efo panad a chacen (wrth gwrs!). Aeth y criw cyflym ymlaen i gyfeiriad Llanrug, Llanberis, Nant Peris, Beddgelert, Tremadog - er mwyn ein cyfarfod ni yn y caffi.

Roedd hi'n sych ac yn wyntog, efo'r gwynt tu ôl ar adegau a'r gwynt yn ein hwynebau ar adegau eraill, gyda'r holl griw yn cefnogi'i gilydd i fynd yn eu blaenau a pharhau. Arwr y diwrnod oedd Paul, a aberthodd ei reid cyflym a'r cyfle i fynd drwy Lanberis i ddod efo ni, yr aelodau newydd, fwy araf, er mwyn ein hannog a rhoi hwb i unrhyw un oedd yn dechrau blino. Cadwodd at y cefn bob tro neu fynd o flaen y person araf (fi - gan amlaf) er mwyn eu galluogi i ddrafftio y tu ôl iddo. Diolch Paul am dy anogaeth!

Un o'r elfennau y gwnes i fwynhau fwyaf oedd y cymdeithasu, yn enwedig efo arwrwraig y lôn, Nicky, cyfle i roi'r byd yn ei le go iawn a gwneud cynlluniau i fynd allan efo'n gilydd ar y beic pan fydd y dydd yn ymestyn. Dw i 'rioed wedi edrych ymlaen gymaint at hynny!

Da iawn i bob un ddaeth efo ni heddiw, y criw hamddenol a'r criw cyflym! Diolch i chi gyd am y gwmnïaeth. Da iawn, yn enwedig, i Iolo, Siôn ac Eifion, oedd allan am y tro cyntaf efo'r clwb. Daliwch ati!


Featured Posts
Recent Posts
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Classic
  • Twitter Classic
  • Google Classic
bottom of page