top of page

Dim gwynt!


Wel am reid bendigedig, heddiw. Pedwar ohonom yn ymlwybro i gyfeiriad Porthaethwy o Benygroes (rhaid cyfaddef bod Arwel a Nicky wedi cychwyn o Drefor!) a'r peth brafiaf oedd fod na ddim gwynt! We-hei! Dw i a Nicky'n dechrau arfer efo'r busnas rhannu'r lôn efo ceir 'ma, a balchder llwyr oedd darganfod mai ni yw'r unig ddwy digon boncyrs i groesi Bont Britania ar y beic! 'Queen of the Mountain' bob un i ni am hynny ar Strava! Yr unig blip oedd fy mod wedi disgyn wrth geisio croesi bont fechan yng Nghaernarfon ac mae gen i glincar o glais i ddangos amdano 'fyd. O wel, nôl ar y beic a chario 'mlaen. Edrych ymlaen at y reid nesa'. Unrhyw ferched allan 'na sy' ffansi cwmnïaeth a chyflymdra hamddenol, dewch efo ni!

Rŵt: Trefor, Penygroes, Caernarfon, Felinheli, Porthaethwy, Felinheli, Caernarfon, Foryd, Llandwrog, Pontllyfni (Pont Cim a Phenygroes), Trefor. 36 o filltiroedd i Paul ac Angharad a 51 o filltiroedd i Arwel a Nicky.

Featured Posts
Recent Posts
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Classic
  • Twitter Classic
  • Google Classic
bottom of page