top of page

Rheolau a Chodau Ymddygiad y Clwb

Rheolau’r Clwb
  1. Mae’r Cod Beicio Prydeinig yn mynnu bod camau rhesymol  yn cael eu cymryd i ddewis amgylchedd diogel ar gyfer datblygu sgiliau pobl ifanc.

  2. Mae croeso i rieni / warchodwyr aros i wylio a mwynhau y gweithgareddau ond nid yw’n orfodol.

  3. Disgwylir i’r pobl ifanc aros drwy gydol y sesiynau hyfforddiant o’r cychwyn hyd at y diwedd oni bai eu bod yn gorfod gadael yn gynnar. Os ydy’r person ifanc yn gorfod gadael yn gynnar neu yn cael ei dywys adref gan rywun gwahanol yna mae’n hanfodol fod y rhiant / gwarchodwr yn hysbysu’r hyfforddwr am y trefniadau newydd, gan gynnwys pwy fydd yn tywys y person ifanc gartref.

  4. Mae’n ddyletswydd ar y person ifanc i ymddwyn yn gwbl deg yn y gweithgareddau beicio a drefnir.

  5. Os bydd unrhyw berson ifanc yn camymddwyn (neu yn peryglu eraill), bydd yn cael ei ddiarddel o’r Clwb.

  6. Dyletswydd y rhiant / gwarchodwr yw trefnu bod beic ac offer y plentyn mewn cyflwr diogel ar gyfer beicio.

  7. Mae’n rhaid gwisgo helmed sy’n ffitio’n iawn ar gyfer y gweithgareddau beicio.

  8. Trefnir sesiynau hyfforddi mewn mannau diogel ar gyfer plant dan 12 oed. Gall y rhai dros 12 gael sesiynau hyfforddi ar y ffordd fawr. Caniateir i bobl ifanc gymryd rhan yn y rhain pan fydd yr hyfforddwyr yn ystyried eu bod yn ddigon aeddfed ac yn meddu ar y sgiliau a’r ffitrwydd priodol er mwyn gallu ymdopi â beicio ar y ffordd fawr.

Cod Ymddygiad Rhieni, Gofalwyr a Chefnogwyr
  1. Hysbysu’r hyfforddwr cyn y sesiwn am unrhyw wybodaeth ac anghenion meddygol perthnasol, gan lenwi’r ffurflen caniatâd ac ymaelodi’r clwb.

  2. Hysbysu’r hyfforddwr os yw eich plentyn i adael y sesiwn yn gynnar neu gyda pherson dieithr, gan ddarparu’r  wybodaeth angenrheidiol parthed y person hwnnw

  3. Helpu  eich plentyn i ddysgu ac ymddwyn yn unol â rheolau’r Clwb.

  4. Atgyfnerthu’r angen i chwarae’n deg a pheidio anghytuno gyda swyddogion.

  5. Annog eich plentyn i adnabod pwysigrwydd ymdrechu yn ogystal â chanlyniad da.

  6. Gosod esiampl dda drwy gydnabod chwarae teg a chymeradwyo ymdrech pawb.

  7. Peidio â bod yn flin tuag at blentyn am beidio ennill neu am wneud camgymeriadau.

  8. Derbyn penderfyniadau swyddogion gan ddysgu eich plentyn i ddilyn eich esiampl.

  9. Cefnogi eich plentyn i fwynhau beicio a chefnogi eich plentyn ymhob gweithgaredd.

  10. Defnyddio iaith pwrpasol â chywir pob amser.

  11. Cofio mai mwynhad eich plentyn sy’n bwysig ac nid eich mwynhad personol.

  12. Cefnogi ymdrechion i gael gwared ag iaith anweddus ym maes chwaraeon.

  13. Dangos parch tuag at hawl , urddas a gwerth pob plentyn unigol – beth bynnag fo’u  rhyw, gallu, anableddau, cefndir ethnig neu grefyddol.

  14. Dangos parch tuag at gyd-aelodau, eu teuluoedd a phawb sydd yn ymwneud â’r clwb gan gofio fod pawb yn cydweithio er lles y clwb.

Cod Ymddygiad Plant a Phobl Ifanc
  1. Cyrraedd mewn da bryd er mwyn paratoi ar gyfer y sesiwn ymarfer neu gystadlu.

  2. Gwisgo’n addas i feicio (gan gynnwys helmed feicio).

  3. Dilyn canllawiau’r hyfforddwr i gynhesu ac ymlacio ar ddechrau a diwedd pob sesiwn.

  4. Chwarae o fewn y rheolau gan dderbyn penderfyniadau swyddogion

  5. Gosod esiampl dda drwy gydnabod chwarae teg a chefnogi  ymdrechion a pherfformiadau pawb, o ba bynnag glwb.

  6. Peidio colli tymer. Peidio tynnu sylw rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn, neu ddefnyddio iaith amhriodol tuag at neb.

  7. Gweithio’n galed dros y Clwb yn ogystal a’ch hun, gan gofio mai chi fydd yn elwa o’ch ymdrechion.

  8. Parchu hawliau eraill, urddas a gwerth pob unigolyn – beth bynnag fo’u rhyw, crefydd, gallu neu gefndir ethnig.

  9. Talu ffioedd y clwb yn brydlon

  10. Ni chaniateir unrhyw ysmygu gan bobl ifanc tra’n ymwneud â gweithgareddau’r Clwb

  11. Ni chaniateir unrhyw yfed alcohol (neu gymryd unrhyw gyffur) gan bobl ifanc tra’n ymwneud â gweithgareddau’r Clwb.

  12. Trin eraill yn barchus, heb fwlio neu gymryd mantais annheg.

  13. Cydweithio gyda hyfforddwyr, aelodau’r Clwb a chystadleuwyr eraill – hebddynt nid oes modd cystadlu.

  14. Diolch i swyddogion yn dilyn cystadlu.

  15. Parchu nwyddau y clwb e.e. cit.

bottom of page