top of page

Amdanom ni

Mae yna ddigon o resymau dros ddod yn aelod o Glwb Beicio’r Eifl, ac mae croeso cynnes i bawb, os ydych yn byw wrth odre’r Eifl neu beidio (mae rhai o’n haelodau yn byw yn Lerpwl hyd yn oed!). Dewch yn aelod ac edrychwn ymlaen at gael eich gweld ar y lôn! Diolch i’n noddwyr hael, Kon-x Wales Ltd, am eu cefnogaeth parod bob amser.

            CEFNDIR

 

Mae Clwb Beicio’r Eifl yn glwb a ffurfiwyd yn 2015 ar gyfer beicwyr o bob safon yn yr ardal a thu hwnt. Ein hamcan yw hyrwyddo a datblygu’r gamp boblogaidd hon er lles cymunedol, cymdeithasol a chorfforol, a hynny mewn awyrgylch o hwyl, brawdgarwch a diogelwch.

 

Rydym yn byw yn un o ardaloedd hyfrytaf Cymru os nad y byd, mewn ardal sy’n cynnwys rhai o ffyrdd a llwybrau beicio mwyaf eiconig Cymru, ac mae cael mwynhau golygfeydd trawiadol LlÅ·n, Eifionydd ac Eryri gyda chriw o ffrindiau yn bleser heb ei ail i bob aelod.

            ACHOSION DA

 

Rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar godi arian at achosion da sy’n agos iawn at ein calonnau. Ers rhai blynyddoedd mae nifer o’n haelodau wedi bod yn trefnu a chymryd rhan yn nheithiau 3 diwrnod blynyddol y ‘Seiclôn’ er mwyn codi arian at Fâd 

Achub Porthdinllaen, ac mae hwnnw’n un o uchafbwyntiau ein calendr bellach.

 

Hefyd bu i dri o’n haelodau wynebu her ‘O’r Bae i’r Bae ar y Beics’ ym mis 

Gorffennaf i godi arian at Elusen Awyr Las a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.

           DIGWYDDIADAU LLEOL

 

Rhan o apêl y gamp yn ogystal yw cymryd rhan yn y digwyddiadau beicio lleol, fel Sportif LlÅ·n, Gran Fondo Conwy, Etape Eryri a’r Tour de Môn, a da gweld aelodau’r clwb yn dal eu tir yn dda yn y digwyddiadau hyn.

 

Dysgwch mwy am y digwyddiadau hyn isod:

 

 

 

 

bottom of page