top of page

CBE YN 'DANGOS Y FFORDD' I DAVID BRAILSFORD


Un o fentrau newydd Llywodraeth Cymru ym maes seiclo yng Ngogledd Orllewin Cymru ydi hyrwyddo ‘Llwybrau David Brailsford’, a chafodd aelodau CBE wahoddiad i gymryd rhan yn yr ymgyrch hyrwyddo newydd drwy dreulio diwrnod yn tynnu lluniau ar hyd rhai o lonydd seiclo mwyaf godidog Eryri. Roedd y tywydd ar 20 Ionawr yn berffaith! Diwrnod o aeaf glân, yn oer a rhewllyd a llonydd, a’r Fenai a’r Foryd fel gwydr yn disgleirio yng ngolau’r haul, a’r Eifl yn gefndir anfarwol a chartrefol wrth i Ari G a Jôs ymddwyn fel pôsars o flaen y lens.

I fyny wedyn at Ddrws y Coed i olwg yr Wyddfa a’i chopa dan orchudd drwchus o eira gwyn ynghanol awyr las loyw. Roedd hyn yn sicr yn ysbrydoliaeth wrth orfod dringo’r Drws droeon i blesio gofynion criw y shŵt.

I lawr am Feddgelert am fechdan sydyn a’r fflapjac ffyddlon ac ambell lun ar y bont, cyn codi a throelli ar gamffordd Glaslyn i orffen y sesiwn ar uchafbwynt ym mhob ystyr, wrth i’r Wyddfa a’i chriw – Lliwedd, Crib y Ddisgl a Chrib Goch - ein croesawu eto i olygfa y byddai trigolion yr Alpau yn eiddigeddus ohoni. Roedd yr eira mor lân a Pinarello Jôs, a’r dyffryn mor wyrdd â Cannondale G.

Ac ar ôl dwrnod ‘calad’ o waith o flaen y camera, mae G a Jôs erbyn hyn eistedd yn ddisgwylgar a gobeithiol wrth y ffôn, yn aros am yr alwad nesaf gan David Brailsford: i ymuno â thîm Sky yn y Tour de France!


Featured Posts
Recent Posts
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Classic
  • Twitter Classic
  • Google Classic
bottom of page