top of page

Blasu Môn ar feic


Wyrach bod ‘Môn Ar Lwy’ yn hufen iâ bendigedig, ond dio ddim cweit mor bleserus (na iach) â Môn ar Feic!

Ar ddydd Mercher 3 Chwefror fe lwyddodd 5 aelod o CBE i osgoi mynd i’r ‘gwaith’ a chanolbwyntio ar flaenoriaeth bywyd llawer pwysicach – concro cant cynta’r flwyddyn. Felly am 9 o’r gloch, yn Reiland, cychwynnodd Sdîf Bach, Ari G, Siôn Al a Seimon Cŵal ar y daith a chodi Tarsan (oedd eisoes wedi seiclo 26,000m yn ystod y ddau ddwrnod blaenorol) yng ngwaelod Allt Goch, a’i ‘nelu hi am y Ddau Lew Tew Heb Ddim Blew.

Wyrach bod tirwedd cymharol wastad yr Ynys yn ffafriol ar gyfer cyflawni 100 ganol gaeaf, ond roedd ‘rhen Forys yn bendefynol na fyddai’n fore hawdd i’r coesau, gan ruo’n ein gwynebau fel rhech Diplodocus di llyncu reactor Wylfa, yr holl ffordd o Lanfair PG (via Niwbwrch, Malltraeth, Berffro) i Gaergybi! Roedd hi’n ryddhad stopio’n Rhosneigr am fechdan bêcyn a phanad hen ffashwn i roi egwyl i gyhyrau blinedig.

Ar ôl crafu ymylon mwyaf gorllewinol Ynys Lawd a’r môr yn berwi ar odreon y clogwyni, roedd troi’r gornel wrth droed Mynydd Cybi i gyfeiriad y dwyrain fel swig cyntaf o Guinness yn Blac Bôi: nefolaidd! Roedd y gwynt o’n plaid rŵan yr holl ffordd i Bont Menai a chafwyd gwefr o’i cholbio’i lawr asgwrn cefn Mam Cymru ar hyd y B5109 drwy Fodedern, Bodffordd, Llangefni, Penmynydd a Phorthaethwy efo Morys yn ein hwyliau. Roedd pedals Sdîf Bach yn troelli mor chwim â Melin Llynnon!

Do, fe gyflawnwyd y 100, ond doedd y diwrnod ddim yn fêl i gyd i bob aelod. Fe gafodd Seimon Cŵal godwm ar balmant ger Clynnog o ganlyniad i sgŵl-bôi eror a llgada dall, gan daro’i benelin, ei ben a’i glun ar y tar-mac. Roedd o’n hapus iawn o gyrraedd adra i roi potyn o hufen iâ oer ar y cleisiau poenus. Wedi diwrnod o Fôn ar Feic, doedd dim byd gwell na Môn ar Lwy!


Featured Posts
Recent Posts
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Classic
  • Twitter Classic
  • Google Classic
bottom of page