top of page
Croeso i Glwb Beicio'r Eifl!

 

Mae Clwb Beicio’r Eifl yn glwb a ffurfiwyd yn 2015 ar gyfer beicwyr o bob safon yn yr ardal a thu hwnt. Ein hamcan yw hyrwyddo a datblygu’r gamp boblogaidd hon er lles cymunedol, cymdeithasol a chorfforol, a hynny mewn awyrgylch o hwyl, brawdgarwch a diogelwch.

 

Rydym yn byw yn un o ardaloedd hyfrytaf Cymru os nad y byd, mewn ardal sy’n cynnwys rhai o ffyrdd a llwybrau beicio mwyaf eiconig Cymru, ac mae cael mwynhau golygfeydd trawiadol Llŷn, Eifionydd ac Eryri gyda chriw o ffrindiau yn bleser heb ei ail i bob aelod.

  • Twitter Clean
  • w-facebook
Blog
Rheolau a Chodau Ymarfer
Cyfrif Trydar y Clwb
Cysylltwch
bottom of page